Gweithio'n galed ar ran pobl Gorllewin De Cymru / Working hard for the people of South Wales West

Yr LCO Iaith

Fel yr Aelod Cynulliad i Blaid Gymru sydd yn canolbwyntio ar faterion diwylliannol, mae’n orfodol i mi ymateb yn fyr i adroddiad y pwyllgor materion cymreig ar y gorchymyn iaith a ddaeth allan ddoe. Wrth gwrs, mae’n bleser mawr i ni fel Plaid bod y pwyllgor yn unfrydol mai yn y Cynulliad y dylid deddfu dros yr iaith. Mae hwn yn egwyddor hynod bwysig sy’n cael ei amlygu gan yr ASau  (ond yn y Cynulliad y dylem ddeddfu ar bopeth, ynte!)

Nawr mae’n bwysig i ni barhau ar hast gyda’r camau nesaf er mwyn i’r gorchymyn yma ddod yn realiti, ac er mwyn i Lywodraeth Cymru’n Un weithredu yn y maes. Mae’r broses wedi bod yn hir fel ag y mae, ac felly dwi’n gyndyn iawn i gytuno gyda’r argymhelliad yn yr adroddiad bod angen i’r pwyllgor materion cymreig cael ail dro i asesu’r gorchymyn yn y dyfodol. Mae hyn, yn ol beth dwi’n deall, yn deillio o’r ffaith bod consyrn ynghylch y ffaith nad yw rhai cwmniau preifat yn cael ei crybwyll yn y gorchymyn, tra fod eraill yn cael eu henwi yn y gorchymyn, ac hefyd yr amwysedd ynghylch yr angen i gwmniau a mudiadau sy’n derbyn dros £200,000 o arian gyhoeddus weithredu o dan oblygiadau’r ddeddf. Tra fod angen gwneud mwy o waith ar hwn, dwi ddim yn credu mai adroddiad arall gan y pwyllgor materion cymreig yw’r ateb.

Mae’r pwyllgor hefyd yn gofyn am fwy o fanylion o swyddogaeth y Comisynydd Iaith. Yn fy marn i, nid lle yr ASau yw i fynnu manylion o’r fath. Bydd cwestiynnau o’r natur yma yn dod yn ystod cyfnod penderfynnu ar y mesurau yn y Cynulliad. Does dim pwynt i’r pwyllgor gytuno mai’r Cynulliad y dylid gwneud penderfyniadau ar yr iaith, os ydynt am gael manylion y mesurau sydd heb cael eu hysgrifennu eto er mwyn cyfiawnhau trosglwyddo’r pwerau i ni!

Dwi ddim chwaith yn cytuno gyda’r awgrym bod angen rhoi arbrofion o sut byddai mesurau yn gweithio- eu cost, a’u heffaith ar gyrff, yn ystod proses cytuno’r gorchymyn. Mae hwn i mi yn symbol arall o ymgais San Steffan i geisio rheoli’r hyn a fydd, efallai, yn ymddangos yn y mesurau. Eto, rol y Cynulliad fydd hwn. Dyma’r dyfyniad o’r pwyllgor-

‘These might include a test of reasonableness, a test of proportionality, and a consideration of the cost to demonstrate that the application of any Measure to particular bodies or organisations will, in the long term, provide a cost-effective benefit to the public in terms of the use of the Welsh language’.

Felly, dwi’n croesawu bod y broses penodol yma nawr ar ben, ond dwi’n awyddus bod y cam nesaf tuag at dynnu’r pwerau draw i’r Cynulliad yn parhau yn sydyn. Does dim awydd gen i, nag eraill mae’n siwr, i’r broses arafu i’r fath raddau na fydd cyfle i’w himplementeiddio.

Dyma barn Cymdeithas yr Iaith ar y mater, a dyma barn y pwyllgor.

  • Digg
  • del.icio.us
  • Facebook
  • Google Bookmarks
  • TwitThis
  • LinkedIn
  • StumbleUpon
  • Yahoo! Buzz

One Response to “Yr LCO Iaith” [latest first]

  1. Mae’r argymhellion o Bwyllgor Materion Cymreig San Steffan yn pwysig oherwydd mae’n rhaid sicrhau y bydd pwerau y ddeddf ddim yn cael effaith negyddol a’r pefformiaeth cwmniau preifat yng Nghymru ac hefyd i ni fod yn hyderus dros pa mor effeithiol bydd y proses yn defnyddio adnoddau cyhoeddus i hybu’r iaith.