Gweithio'n galed ar ran pobl Gorllewin De Cymru / Working hard for the people of South Wales West

Ymweliad Dafydd Wigley

Heddiw daeth Dafydd Wigley ar wibdaith i Abertawe a Chastell Nedd. Roedd y tywydd yn wych, ac roedd e’n braf gweld Dafydd eto ar lwybr yr ymgyrch. Cafon ni gyfle o flaen Prifysgol Abertawe i gael llun gyda’r ymgeiswyr lleol gan dal datganiad UCMC yn tyngu ein cefnogaeth i fyfywrwyr o Gymru.

Mae hyn yn golygu ein bod ni’n cefnogi parhad yr EMA a’r grant dysgu myfyrwyr sydd yn cael eu cynnig gan Lywodraeth Cymru. Mae’n bwysig iawn ein bod ni fel ymgeiswyr yn cefnogi myfyrwyr,yn enwedig gan fod y Toriaid a’r Democratiaid Rhyddfrydol ar lefel Prydeinig yn benderfynol o orfodi myfyrwyr i dalu mwy a mwy am addysg a ddylai fod am ddim- gan rhoi nhw mewn mwy o ddyled fel canlyniad. Roedd e’n syfrdanol gweld maniffesto’r Toriaid ‘Cymreig’ yr wythnos diwethaf, wrth iddynt amlinellu y byddent yn gorfodi myfyrwyr o Gymru i dalu ffioedd o £9,000 pe byddent yn cael eu hethol. Rheswm gwych i fyrywyr beidio pleidleisio dros y Ceidwadwyr ( os oedd angen rheswm i beidio!) Mae ein record ni o ran cefnogi myfyrwyr yn gryf, ac yn sicr dwi’n brwd yn erbyn ffioedd cyflenwi a’r cysyniad o greu marchnad yn y system addysg yn sgil fy nghefndir fel Llywydd Undeb Myfyrwyr Aberystwyth cyn i mi gael fy ethol.

O Abertawe i Gastell Nedd, ac yno fe wnaeth Dafydd cael y cyfle i gwrdd a Keith Harding sy’n Gadeirydd ar Siambr Masnach y dre. Mae Keith yn ddyn weithgar iawn yn y dref, sydd yn credu’n gryf mewn cefnogi a datblygu busnesau bach, yn ogystal a gwerthu Castell Nedd fel tref masnach, gyda siopau newydd yn gymysg a’r hyn y mae’r farchnad yn cynnig. Fe wnaethom cael cyfle i gwrdd a rhai o’r masnachwyr, a siarad gyda pobl lleol am eu blaenoriaethau ar gyfer y dre. Fory byddem allan yn yr ardal eto, yn cnocio ar ddrysau, ac yn ennyn pobl i bleidleisio Plaid Cymru ar Fai y 5ed.

  • Digg
  • del.icio.us
  • Facebook
  • Google Bookmarks
  • TwitThis
  • LinkedIn
  • StumbleUpon
  • Yahoo! Buzz

Sorry, comments are closed on this item.