S4C taeog
Posted on Saturday, April 30, 2011 at 4:20pm
3 responses
Dyma fy mlog olaf am y briodas brenhinol, a blog byr fydd hi er mwyn i mi ddweud fy mod i’n ddig bod S4C o bob sianel wedi dilyn y frenzy cyfryngol o wneud rhaglen llawn yn dilyn hynt a helynt priodas William a Kate, yn union fel a wnaeth Sky a’r BBC.
Roedd pobl fel Rhun ap Iorwerth a Nia Tudur yn cyflwyno’r sioe, ac mi oedd hwn yn siom mawr. Roeddwn i’n disgwyl gwell. Yr un oedd y siom o weld Huw Edwards a Alex Jones yn rhan o’r holl sioe. Beth fyddai Hywel Teifi yn dweud, sgwn i? Dwi’m yn credu mai nod protestio Gwynfor Evans oedd i greu sianel Cymraeg ei hiaith o gyflwynwyr taeog, a fyddai’n fodlon dilyn agenda Prydeinig. Y pwrpas, hyd y deallaf i, oedd i greu sianel a oedd yno i feithrin twf yr Iaith yn bennaf, i greu rhaglennu am Gymru, wedi ei wneud yng Nghymru, ar gyfer Cymru modern.
Ble ydym ni’n mynd fel Cenedl os ydym yn benderfynol o ddilyn yn ddi- gwestiwn yr hyn y mae’r cyfryngau Prydeinig yn blaenoriaethu? Nid dim ond y ffaith bod S4C wedi defnyddio ei harian prin i wneud sioe am y briodas yw’r broblem yn hynny o beth, ond y ffaith bod rheolwyr y sianel hefyd yn dilyn agenda Prydeinig ac Americanaidd o greu rhaglennu realiti arwynebol, yn copio yr hyn sydd yn llwyddiannus ar sianelu eraill heb hyd yn oed cwestiynnu os oes ganddynt yr un apel ar gyfer S4C.
Mae angen creu rhaglennu gwreiddiol a heriol. Nid rol S4C yw i gopio sianelu eraill, ond yn hytrach, i arwain y ffordd ( fel mae rhaglennu fel Pen Talar, Alys a Caerdydd wedi dangos…mae e’n bosib!) Mae angen i S4C fod yn fwy arbennigol hefyd, a chanolbwyntio ar raglennu a fyddai’n denu gwylwyr newydd. Mae cymaint o sianelu gwahanol yn bodoli y dyddie ma, fel bod angen i S4C edrych y tu allan i’r bocs, yn hytrach na gwneud y bocs yn fwy wrth greu rhaglennu heb fawr o sylwedd na siap.
Es i i gig Dafydd Iwan neithiwr, ac roedd gwrando ar ei ganeuon yn fy ysbrydoli i feddwl am y pwnc penodol yma.Pa fath o S4C sydd angen, pa fath o Genedl ydym am greu mewn gwirionedd? Mae rol y cyfryngau, a rol S4C yn hynny o beth mor mor bwysig. Rhaid i ni beidio a thanseilio cyfrifoldeb S4C wrth greu rhaglennu ar gyfer ein sianel Cenedlaethol. Mae dyletswydd ar y sianel i addysgu, i ysbrydoli, i dynnu pobl ynghyd, i ennyn twf yr iaith. Dyw creu rhaglennu am deulu Brenhinol estron ddim yn rhan o’r agenda hynny yn fy marn i.












I am surprised at the amount of channels covered the wedding yesterday and even today SKY NEWS are have been repeating most of it all over again and so will the news bullatins this will proberly show more of it again enough is enough.
I fi mae o’n dibynnu os oedd cynilleidfa ar gyfer rhaglen ar y testun neu beidio. Dwi’n sicr ddim yn hoffi’r ymosodiadau personol ar y cyflwynwyr S4C a BBC. Yn enwedig gan bod ne bobl eraill yn agosach i gartref ellai feddwl am sydd ddim wedi cael eu hymosod arno yn bersonol. Pigo ar easy targets yn fy marn i, ac yn deaog ei hun braidd os mae ei theimladau am hyn mor gryf.
bydden i’n fodlon enwi pawb oedd yn rhan o’r rhaglennu ond dwi’n defnyddio enwau pobl o Gymru oedd yn rhan o’r peth. Dwi ddim yn gwybod pwy arall o Gymru oedd yn rhan ohono. Dwi ddim yn ymddiheuro am dweud eu henwau yma ar y blog. Dwi yn disgwyl gwell o rhai o’r cyflwynwyr mwya profiadol. Dwi’n parchu nhw ac yn meddwl bod nhw’n dalentog iawn i’r record, ond dwi ddim yn cytuno gyda’r ffaith bod S4C wedi neud rhaglen neu bod yr enwau uchod wedi cymryd rhan. Croeso i ti anghytuno a mi wrth gwrs.