‘Steddfod
Posted on Friday, July 31, 2009 at 7:23pm
one response
Dwi ddim yn mynd i’r Eisteddfod eleni. Doedd o ddim yn dewis penderfynnol i beidio mynd, dim ond i’m dyddiadur dechrau llenwi, ac wedyn ‘nes i sylweddoli bod e’n rhy anodd i ail- drefnu popeth…
Mae’r Eisteddfod heb os yn wyl pwysig iawn i Gymru- yn dod a cherddorion, dramodwyr a llu o artisitiaid eraill oll ynghyd; yn rhoi cyfle euraidd i arddangos dawn pobl Cymru; i ni gymdeithasu, rhannu syniadau. Mae’r rhestr yn ddi-diwedd.
Ond, (mae yna ond yn anffodus!) pan oeddwn i’n tyfu fyny, roedd cwrs Cerddorfa Cymru o hyd yn digwydd yn ystod wythnos y Steddfod, ac roedd ein cwrs preswyl yn Llanbed. Wrth gwrs, cafon ni’r cyfle fel Cerddorfa i ganu ar y maes ( os mewn amgylchiadau anodd ar adegau) ond dwi ddim yn un o’r bobl hynny felly oedd yn mynd i aros ar Faes B bob haf,( yr adram ieuenctid) neu yn mynd i ryw lawer o gigs ayb.
Am y rheswm hynny, efallai fy mod i’n fwy parod i fod yn oddrychol wrth asesu’r Eisteddfod. Y cwestiwn mawr i mi o hyd yw’r angen i drefnwyr yr Eisteddfod ehangu apel yr Eisteddfod i ddysgwyr, ac i bawb yng Nghymru. Disgrifiodd Rhys Llwyd yr wyl ar ei dudalen twitter fel ‘prif ddinas symudol y Cymry Cymraeg’- ond nid dyna dylai’r Steddfod bod yn fy marn i. Gwyl i BAWB yng Nghymru yw’r Eisteddfod, ac os ydym yn mynd i ddweud yn wahanol- ei fod am y ‘Cymry Cymraeg’ yn ecsgliwsif, rwy’n sicr y bydd yna llawer o bobl na fydd yn ystyried mynychu’r Steddfod, gan edrych arno fel rhywbeth estron iddynt, a’u cefndir.
Mae yna ymgeisiadau i ehangu ar gyfleusterau i ddysgwyr ac i bobl lleol sydd a ddiddordeb yn yr Eisteddfod- i bobl nad sydd erioed wedi bod i’r Eisteddfod- ond nid yw’r ymgeisiadau eto yn ddigonol yn fy marn i. Dwi wedi siarad gyda nifer o bobl yn y gorffennol sydd wedi cerdded o gwmpas y maes yn hollol anwybodus am yr hyn oedd o’u hamgylch, ac wedi gadael heb hyd yn oed yn deall bod yna pafiliwn mawr yn y canol llawn digwyddiadau celfyddodol amrywiol! Mae nifer o bobl nad sy’n siarad cymraeg hefyd yn ofni siarad saesneg ar y maes rhag iddynt derbyn stwr. Dwi’n siarad o brofiad pan yn dweud bod yr ofn yma yn teilwng iawn! Blwyddyn diwethaf, fe ddaeth hen fenyw lan ata i i rhoi stwr i mi am ddefnyddio gair saesneg mewn brawddeg cymraeg. Sut ydy agwedd cul fel hwn yn ennyn dysgwyr i’r maes, tybed, os ydy siaradwyr sydd yn rhugl yn cael problemau?!
Yn fy marn i, mae angen mwy o bobl ar y maes i ateb cwestiynnau am yr Eisteddfod, i esbonio i bobl beth sy’n digwydd. Nid pawb sydd yn gwbod sut i ffeindio stondyn Cowbois neu Shwl Di Mwl gyda’u llygaid ar gau. Mae angen ennyn mwy o ysgolion di-gymraeg a grwpiau lleol i ymwneud a’r Eisteddfod, ac ennyn y diddordeb hynny hyd yn oed pan nad yw’r Eisteddfod yn eu hardaloedd penodol nhw. Mae Blaenau Gwent yn enghraifft perffaith.
Dyw hwn ddim yn critique o’r Eisteddfod. Mae barnu digwyddiadau mae’r Cymry Cymraeg yn trefnu yn gallu bod yn anodd weithiau. Dwi’n mwynhau pan dwi’n mynd, ond eto’i gyd, dwi’n nabod llawer o’r bobl sy’n mynychu blwyddyn ar ol blwyddyn. Dyw e ddim yn estron i mi.
Da ni gyd yn ymwybodol o broblemau ariannol yr Eisteddfod. Efallai nawr yw’r amser felly i wir asesu ei llwyddiant, ac i sicrhau bod e’n wyl lle mae pawb o Gymru yn cael croeso cynnes… ac i dwristiaid wrth gwrs!



















Cytunaf yn llwyr. Mae ‘hedlu’r iaith’ yn broblem mawr i’r iaith yn fy marn i. Mae’n well clywed rhywun yn siarad ‘hanner a hanner’ na pheidio siarad Cymraeg o gwbl. Dylen ni ddod yn cefnogi pobl sy’n ceisio siarad Cymraeg, nid codi ofn ynddyn nhw. Fydd hyn ddim yn achub yr iaith, mae rhaid i ni wneud y brofiad o siarad Cymraeg yn rhywbeth ‘cool’ i bobl ifanc Cymru – nhw fydd yn cario’r iaith ymlaen.