Refferendwm
Posted on Tuesday, November 3, 2009 at 6:38pm
2 responses
Mae’r drafodaeth ar yr LCO ar yr Iaith Gymraeg wedi bod yn fywiog heddiw, ac eto cadarnhau i nifer fawr ohonom pam bod angen refferendwm ar Senedd i Gymru- fel nad oes rhaid i ni gymryd rhan mewn broses mor gymhleth, hir wyntog ac anghynaladwy. Wrth gwrs, rwy’n hapus iawn bod yr LCO yn cael ei gymeradwyo, ond ni ddylem orfod ofyn i San Steffan am bwerau dros ein hiaith ein hun.
Dwi’n fawr edrych ymlaen at adroddiad y Confensiwn Cenedlaethol ar fwy o bwerau i Gymru, ond dwi wedi bod o’r barn ers tro fyd nawr bod angen i wleidyddion o bob Plaid dod at ei gilydd i drafod goblygiadau trefnu ymgyrch Ie dros Senedd i Gymru, a pharatoi am refferendwm fel bod modd ei hennill yn llwyddiannus.
Heddiw, yn ystod y drafodaeth ar yr LCO dywedodd Alun Davies AC bod e am weld refferedwm yn digwydd ar ol etholiad Cyffredinol. Dwi ddim yn deall pam bod e wedi bod mor hir, ac mor anodd, i meincwyr cefn Llafur ddod allan o blaid gweithredu refferendwm cyn nawr.
Tasa Aelodau’r Blaid Lafur, a phob Plaid arall wedi ymateb i fy ngalwad y flwyddyn diwethaf am drafodaeth ar y refferendwm, yna byddem wedi datblygu mwy o syniadaeth a chonsensws ar y mater erbyn hyn, yn fy marn i.
Yn anffodus, ni ddigwyddodd hynny, ond ni fyddaf yn troi fy nghefn ar ACau sydd am ddatgan cefnogaeth i’r angen am refferendwm, yn enwedig am mai’r rheswm yw anhawster gweithredu’r system LCO presenol. Dwi am weithio gyda unrhyw AC neu grwp neu fudiad sydd o blaid cynnal refferendwm.
Dwi ond yn gobeithio fod Alun Davies AC yn siarad ar rhan Carwyn Jones AC, y person mae e’n cefnogi i ennill y ras i fod yn Brif Weinidog Cymru pan yn datgan barn am yr angen am refferendwm.
Mae’n bryd i bob ymgeisydd dweud yn glir eu barn ar y refferendwm, a’r ymdrech fydden nhw’n rhoi mewn i ymgyrchu yn gadarnhaol yn rhan o’r refferendwm hynny.



















Bethan- Mae’r ymgeiswyr eisoes wedi rhoi eu barn ar fater y refferendwm, ac o’r tri ohonyn nhw dim ond Edwina Hart sydd wedi datgan yn glir bod angen refferendwm a symud at fwy o bwerau i Gymru yn ddi-oed.Fel cenedlaetholwr, dwi’n gobeithio mai Edwina aiff a hi.
Ond beth bynnag a ddigwydd hefo Llafur, mae’n bryd i Plaid Cymru ddangos arweiniad ar y mater hwn a lawnsio ymgyrch IE yn swyddogol, unwaith y bydd Syr Emyr wedi cyhoeddi ei adroddiad. Mae yna gyfle fan hyn i greu’r tywydd gwleidyddol yng Nghymru, ac i orfodi’r Blaid Lafur i ddewis a ydyn nhw isio cyfle i gael rhywfaint o ddylanwad mewn Senedd Gymreig neu aros yn yr anialwch yn San Steffan am gyfnod maith o amser.
dwi’n deall hynny, ond does dim problem gen i ailadrodd fy nyheuad i’r ymgeiswyr.
Dwi’n cytuno da ti am Blaid Cymru hefyd, ond dyden ni ddim yn gallu lansio ymgyrch ar ben ein hun. mae angen pleidiau eraill/ mudiadau etc i ddod ynghyd. Dwi’n barod i weithredu, yn bersonol cofia!