Gweithio'n galed ar ran pobl Gorllewin De Cymru / Working hard for the people of South Wales West

Melyn yn y glymblaid

Heddi, mae stori yn y Western Mail gyda dyfyniadau gan bobl di enw yn y Blaid Lafur bod yna bosibilrwydd cryf i’r Democratiaid Rhyddfrydol ymuno gyda ni a Llafur yn y glymblaid ar ol i Rhodri Morgan ymddeol. Dwi’n sicr heb glywed unrhyw si o’r fath, ond does dim gwadu bod pobl yn siarad am y ras arweinyddol o fewn y Blaid Lafur, a sut fedrir effeithio ar Cymru’n Un- os fydd yr arweinydd newydd am dynnu allan o’r glymblaid ayb. Mae hwn yn drafodaeth wahanol iawn i’r Democratiaid Rhyddfrydol yn ymuno a’r glymblaid sydd ohoni.

Dwi’m yn sicr felly faint o gryfder sydd i’r stori yma. Mae’n eithaf chwerthynllyd bod y Demorcratiaid Rhyddfrydol wedi ymateb mor gadarnhaol i’r cysyniad o liwio’r glymblaid yn felyn o feddwl nad oedd diddordeb ganddynt nol yn 2007 i weithio gyda’r Blaid Lafur, na chwaith y glymblaid Enfys. Dwi’n credu bod y Democratiaid Rhyddfrydol yn ofni cyfaddef pa mor effeithiol mae’r glymblaid presenol- ac yntau fel Plaid gwrthwynebol- yn gwneud, yn enwedig Elin Jones fel Gweinidog. Mae hi yn fygythiad cryf i’r Democratiaid Rhyddfrydol yn Ngheredigion yng nhyd destun codi proffil y Blaid ar gyfer ennill y sedd San Steffan yn ol y flwyddyn nesaf.

Mae dyfyniad di enw arall yn erthygl Martin Shipton gan Blaid Cymru- yn awgrymu bod rhai aelodau o Llafur yn cydweithredu gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol i ledaenu straeon fel hwn er mwyn tanseilio Ieuan Wyn Jones yn ei rol fel Gweinidog dros yr economi. Dyw e ddim yn sioc i ddweud bod Kirsty Williams am waed Ieuan bob tro mae cwestiynnau iddo yn y Cynulliad, ond eto, hyd yn oed os yw rhai aelodau o Llafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn siarad- beth ydy’r ots? Pam rhoi hygrededd iddynt? Roedd y blaid wedi colli’r cyfle i fod mewn llywodraeth yma yng Nghymru, ac nawr, yn ol y son, yn ceisio gwthio ei hun ar yr agenda i wneud ei hun yn fwy perthnasol i hynt a helynt gwleidyddiaeth Cymru.Rwy’n teimlo’n flin drostynt mewn ffordd od.

Ta waeth, dyna fy marn bach i am y stori. Mae pethau’n newid o ddydd i ddydd mewn gwleidyddiaeth, ond yn bersonol, dwi ddim yn credu mai nawr yw’r amser i drafod newid y drefn clymbleidiol sydd ohoni yng Nghymru yn enwedig yn ngolau’r sefyllfa economaidd. Mae angen i’r Llywodraeth presenol barhau gyda’r gwaith cadarnhaol o mynd i’r afael a’r problemau, rhoi strategaethau yn ei le, a chyllid i fusnesau sydd yn dioddef ac i bobl sydd yn cael ei wneud yn ddiwaith. Hynny sy’n bwysig, nid y ’siarad’ sy’n digwydd ar hyd coridorau’r Cynulliad, neu rhwng Mr Shipton a’r di-enw rhai…..

  • Digg
  • del.icio.us
  • Facebook
  • Google Bookmarks
  • TwitThis
  • LinkedIn
  • StumbleUpon
  • Yahoo! Buzz

One Response to “Melyn yn y glymblaid” [latest first]

  1. [...] Bethan Jenkins and Vaughan Roderick both comment on the issue, with Vaughan looking at the possible effect in 2011. Personally, I think the story is a reflection of frustrations in Labour at Ieuan Wyn Jones’ performance as Minister and Labour’s performance as electoral campaigners. [...]