Lle mae’r frwydr, Carwyn?
Posted on Thursday, June 9, 2011 at 4:12pm
one response
Ddoe yn ystod cwestiynnau i’r Prif Weinidog fe wnaeth Carwyn Jones rhoi’r gorau i frwydro dros ddyfodol darlledu Cymru. Dywedodd wrth Aelodau’r Cynulliad na fyddai Llywodraeth y DU yn roi cyllid ar gyfer system ddarlledu ddatganoledig, yna cyfaddefodd yn ddiweddarach ei fod yn erbyn datganoli darlledu beth bynnag.
Felly, i bob pwrpas, mae Carwyn Jones wedi hwyluso parhad rheolaeth ein cyfryngau gan Dorïaidd dan arweiniad Llywodraeth y DU nad sydd a ddiddordeb o gwbl yng Ngymru na chwaith mewn diogelu swyddi yn y sector penodol yma. Does ond angen edrych ar yr hyn sy’n digwydd gyda dyfodol S4C a’r ddogfen a ddatgelwyd yn ymwneud â’r toriadau arfaethedig yn y BBC Cymru, i ddeall na ddylai’r sefyllfa hon cael ei drin ysgafn, a bod angen i ni gymryd ein neges yn glir i San Steffan am ein pryder ynglŷn â dyfodol y cyfryngau yng Nghymru.
Os oedd Cameron neu Jeremy Hunt wedi gwylio ein Prif Weinidog yn ystod y sesiwn holi ddoe, bydden nhw’n iawn i feddwl bod y Prif Weinidog yn ymddangos fel ei bod wedi rhoi’r ffidil yn y to cyn i’r frwydr dechrau hyd yn oed. Yr wythnos diwethaf dywedodd Carwyn Jones i’r cyhoedd y byddai’n ysgrifennu i Lywodraeth y DU am y cynlluniau sy’n peri pryder o fewn y BBC, a ymddangosodd mewn dogfen a ddatgelwyd yn y Western Mail, ac rwy’n aros yn eiddgar am ei ymateb.
A wnaeth Carwyn codi’r mater yn y Cyd-Bwyllgor Gweinidogol yn Llundain ddoe, tybed? Mae’n cyfaddef ei bod am weld rhaglennu o safon yng Nghymru, ond ar yr un pryd, maen’ benderfynol o danseilio Plaid Cymru am geisio gwthio i ddatganoli darlledu. Am y record, nid wyf yn credu ein bod ni erioed wedi galw iddo gael ei ddatganoli heb ffrwd ariannol- rhywbeth mae’r Prif Weinidiog wedi cyfeirio ato ar fwy nag un achlysur.
Pan drafodwyd datganoli’r system o bobl ifanc yn y system troseddol yn y Cynulliad diwethaf ar y Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant, (yr oedd yn un o ymrwymiadau Llywodraeth Cymru’n Un) ni trafodwyd datganoli cyfrifoldeb heb cydnabyddiaeth glir o’r angen am gyllid i ddilyn ar gyfer datblygiadau megis adeiladau diogel newydd neu canolfannau adferol. Oni fyddai yn gyfrifoldeb i Weinidog negodi cytundebau o’r fath gyda’r Trysorlys, ac i sicrhau bod gan Gymru lais cryf wrth benderfynu sut y byddai dyfodol cyfrifoldeb datganoledig yn gweithio yn ymarferol, a sut y byddai’n cael ei gweithredu? Yn amlwg, heb bwysau o’r gwrthbleidiau, bydd Carwyn Jones yn digon fodlon i eistedd ar ymylon trafodaethau, tra bod arweinwyr y Cenhedloedd datganoledig eraill yn gwneud eu hachos yn glir am ddyfodol setliad eu cenhedloedd eu hun.
Ac felly mae’r BBC yn dweud wrthaf fod y dogfennau a ddatgelwyd yn drafftiau cyntaf yn unig, a bod rhaid i’r holl opsiynau cael eu hystyried os ydyw arbedion i ddigwydd. Mae’n ymddangos nad oedd unrhyw ‘red lines‘, a’r briff oedd, mae unrhyw beth yn bosib, neu, dylai unrhywbeth cael eu hystyried o ran toriadau-gan gynnwys diswyddiadau gorfodol i staff. Pa mor gadarnhaol mae nhw’n teimlo ar hyn o bryd?!
Deallaf y bydd argymhellion yr arbedion yn cael ei roi i Ymddiriedolaeth y BBC, y bydd yr Ymddiriedolaeth wedyn yn trafod ac yn digwygio’r newidiadau. Bydd hyn wedyn yn arwain at ymgynghoriad cyhoeddus yn yr Hydref. Byddai rhai yn dadlau bod yr ymgynghoriad cyhoeddus yn rhy hwyr-bod ffurf a natur y toriadau mwy neu lai yn cael ei benderfynnu erbyn hynny. Byddai eraill yn anghytuno, gan ddweud ei fod yn ymgynghoriad agored ac atebol. Amser a ddengys, ond beth bynnag sy’n digwydd, mae’n ymddangos bod arbedion / toriadau ar y gweill. Bydd hyn yn cael effaith anochel ar raglennu a swyddi yn y BBC yng Nghymru.
Cawn weld beth fydd gan Carwyn i ddweud yr wythnos nesaf. A fydd e’n sylweddoli bod sefyll i fyny dros Gymru yn cymryd mwy nag un daith i Lundain ac yn ôl?












O edrych ar y ffordd mae BBC Cymru/Wales wedi ymdrin ag absenoldeb IWJ ac ar yr un pryd, rhoi fawr ddim o sylw i tangyflawiad Carwyn yn Llundain, efallai fydd gweld toriadau yn y BBC yn fawr ddim o golled?