Gweithio'n galed ar ran pobl Gorllewin De Cymru / Working hard for the people of South Wales West

Geraint Owen

Dwi jyst am sgwennu post byr iawn i ddweud fy mod i’n meddwl am deulu Geraint Owen yn ystod y cyfnod caled yma. Bu farw Gertaint Owen ar nos Wener.

Roedd o’n sioc i bawb sy’n nabod o’n dda, ac fe fydd colled ar ei ol. Dim on 43 oed oedd o. Dwi ddim yn siwr beth yw’r rhesymau dros y marwolaeth, ond dwi’n gobeithio byddaf yn gallu mynychu’r angladd.

Roedd Geraint Owen yn adnabyddus am fod yn actor ar Bobl y Cwm, ac roedd o’n cael ei hadnabod yn lleol yng Ngastell Nedd fel ‘Bond’ ar ol iddo golli allan ar ennill y rol James Bond ar gyfer y ffilmiau mwyaf diweddar.

O’n i’n nabod Geraint drwy’r Blaid yng Nghastell Nedd. Roedd o wedi sefyll yn erbyn Peter Hain ar gyfer sedd Castell Nedd San Steffan yn y gorffennol, ac roedd o wedi rhoi help llaw i mi pan oeddwn i’n sefyll fel ymgeisydd pan oedd e’n gweithio i Janet Davies AC.

Eto, hoffwn i estyn pob cydymdeimlad i’r teulu yn ystod y cyfnod anodd yma.

  • Digg
  • del.icio.us
  • Facebook
  • Google Bookmarks
  • TwitThis
  • LinkedIn
  • StumbleUpon
  • Yahoo! Buzz

Sorry, comments are closed on this item.