Gweithio'n galed ar ran pobl Gorllewin De Cymru / Working hard for the people of South Wales West

Economi Economi Economi

Fory dwi’n mynd i ymweld a’r cwmni Unit Superheater Engineering yn ardal Crymlyn Burrows o’r etholaeth ar gyfer pecyn etholiad y BBC ar yr economi. Dwi’n deall ein bod am gael gweld beth mae’r cwmni yn ei wneud o ddydd i ddydd, ac wedyn bydd y BBC yn holi barn ymgeiswyr o bob plaid ar ddyfodol yr economi yn yr ardal, a sut medrwn helpu cwmniau megis yr uchod i ffynnu.

Dwi ddim am ddweud gormod am fy nghyfraniad fan hyn cyn i mi wneud y cyfweliad, ond un peth sy’n sicr yw bod yr economi ar flaen yr agenda yn yr etholiad yma. Mae’n holl bwysig bod economi Cymru yn tyfu ac yn datblygu er mwyn helpu ein gwlad allan o’r sefyllfa ariannol erchrydus rydym ynddo.

Roeddwn i’n siarad gyda gwr busnes yr wythnos dwethaf a dywedodd bod yna ormod o bwyslais yn y cyfryngau ar effaith yr hinsawdd economaidd o ran toriadau i’r wladwriaeth les, yn hytrach na thrafodaeth go iawn ar sut medrir yr economi helpu i wella’r sefyllfa, a chreu twf  i fusnesau o bob lliw a llun. Dwi’n derbyn y pwynt, ond balans sydd angen yn fy marn i rhwng amddiffyn y sector cyhoeddus ar yr un pryd, a rhoi cefnogaeth real i fusnesau bach a diwydiannau mawr megis Tata ym Mhort Talbot er mwyn iddynt dangos y ffordd allan o’r twll du ariannol. Cefnogaeth o ran creu mwy o brentisiaethau, o roi cymorth ariannol i fusnesau bach i ffynnu, ac i roi sgiliau i bobl sydd newydd colli eu swyddi er mwyn iddynt chwilio am swyddi newydd, safonol. Mae hwn ond yn rhestr fer o’r hyn y mae Plaid Cymru am wneud. Dwi hefyd yn awyddus i sicrhau bod byd addysg yn gweithio yn agos iawn gyda byd busnes, ac mae’n braf gweld hwn yn digwydd yng nghyd destun y cysylltiadau cryf sydd rhwng Prifysgol Abertawe a busnesau lleol.

Does dim bwled aur i wella’r sefyllfa economaidd dros nos. Mae angen i bolisiau effeithiol economaidd plethu gyda polisiau cyfiawnder cymdeithasol, iechyd ac addysg er mwyn i ni weld newid gwirioneddol yma yng Nghymru. Does dim diffyg talent yma yn sicr, beth sydd angen yn awr yw ffocysu ar ardaloedd o gryfder, a gwerthu Cymru i’r Byd.

  • Digg
  • del.icio.us
  • Facebook
  • Google Bookmarks
  • TwitThis
  • LinkedIn
  • StumbleUpon
  • Yahoo! Buzz

Sorry, comments are closed on this item.