Gweithio'n galed ar ran pobl Gorllewin De Cymru / Working hard for the people of South Wales West

Cau Canolfan Ogwr


Scwp newyddion heddiw yw’r si bod Canolfan Ogwr yn mynd i gau am nad oes modd ariannu adnewyddu’r Ganolfan, ac am nad oes cwmni i rhedeg y lle. I berson sydd wedi treulio blynyddoedd yn ‘Ogwr’ ar gyrsiau cerddorfa’r Glam( Cerddorfa Ieunctid Morgannwg), mae hyn yn newyddion trist iawn. Dydw i ddim yn ymwybodol o fanylion y rhesymau dros cau y Ganolfan, ond rwy’n bwriadu ceisio ymgyrchu i gadw’r Ganolfan ar agor. Mae’n siwr bod nifer o Gerddorion byd enwog wedi treulio canran mawr o’i bywydau ar gyrsiau yn Ogwr, a fydd yn gallu helpu’r ymgyrch yma. Mae’n siom o’r radd mwyaf bod cynlluniau i gau’r lle o feddwl ei fod yn chwarae rhan mor bwysig mewn datblygiad nifer fawr o gyrsiau a sectorau o’r gymdeithas.

- Newydd clywed bod Ogwr ddim yn cau! Mae dathliadau ar y gweill felly!

  • Digg
  • del.icio.us
  • Facebook
  • Google Bookmarks
  • TwitThis
  • LinkedIn
  • StumbleUpon
  • Yahoo! Buzz

Sorry, comments are closed on this item.