Canfasio yn Cornelly
Posted on Thursday, April 14, 2011 at 2:13pm
no responses
Ddoe es i allan gyda’n hymgeisydd ym Mhenybont, Tim Thomas, i ganfasio yn ardal Cornelly o’r etholaeth. Mae’n anodd gwbod yn ystod y dydd faint o bobl sydd yn mynd i fod allan yn gweithio er mwyn cael trafodaeth ar stepen drws, ond roedd ein sesiwn ddoe yn llwyddiannus yn hynny o beth, gyda nifer fawr o bobl yn eu tai, ac yn fodlon siarad gyda ni.
Un Cynghorydd Sir sydd gennym yn ardal Penybont ar Ogwr ar hyn o bryd, ond rydym yn ceisio mynd allan i siarad gyda pobl yn ardaloedd fel Cornelly er mwyn adeiladu at etholiadau’r cyngor y flwyddyn nesaf. Roedd ymateb nifer fawr o bobl yn gadarnhaol, rhaid i mi gyfaddef. Fe wnes i gwrdd a nifer o bobl a oedd wedi pleidleisio dros y Democratiaid Rhyddfrydol yn etholiadau San Steffan, sydd yn benderfynol o beidio pleidleisio drostynt eto am gyflwyno mwy o ffioedd myfyrwyr ac am gymodi gyda’r Toriaid. ‘Clegg the Clown’ oedd disgrifiad un hen fenyw o arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, ac roedd hi am i ymgyrchwyr lleol y Democratiaid Rhyddfrydol cnocio ar ei ddrws er mwyn iddi gallu dweud wrthynt yn uniongyrchol pa mor ddig yr oedd am iddynt werthu eu hegwyddorion ar lefel San Steffan.
Roedd nifer o bobl yn barod i wrando ar syniadau Plaid Cymru yn ein maniffesto, yn enwedig o ran yr economi a gofal plant. Roedd nifer ohonynt wedi cael digon o’r Democratitiad Rhyddfrydol, y Toriaid, a Llafur am ei diffyg gweledigaeth i Gymru.
Dwi’n gwbod nad oeddwn wedi siarad gyda miloedd o bobl ddoe, ond mae’r ffaith i bobl beirniadu Llafur hefyd- yn ddweud eu bont am rhoi cyfle i Blaid Cymru y tro hwn, yn dangos nad yw strategaeth Llafur o ymosod ymosod ymosod ar glymblaid Llywodraeth Prydeinig yn gweithio mor dda ac yr oeddynt yn credu.
Nid yw etholwyr yn dwp, ac mae nhw’n gallu cofio rol Llafur wrth dinistrio’r economi pan mewn LLywodraeth, wrth penderfynnu peidio cyflwyno rheolau digon llym ar y banciau, a’r ffaith bod system ariannu Cymru mor annheg. Roedd nifer o bobl am bleidleisio dros Blaid Cymru gan ein bod yn ffocysu ar Gymru yn unig. Mae nhw’n deall y ffaith nad yw’r pleidiau eraill yn rhoi Cymru yn gyntaf, nad Cymru sydd ar flaen yr agenda. Yr unig rheswm pam bod y Blaid Lafur nawr yn son am faterion fel cyllido teg, trydaneiddio’r rheilffyrdd yw oherwydd nad ydynt yn rheoli yn San Steffan. Beth wnaethon nhw am y pethau yma tra mewn pwer?
Pwer er mwyn cael pwer yw unig amcan y Blaid Lafur, ac ni fydd hwn yn newid yn yr hir dymor. Dwi’n falch felly bod ddoe wedi bod yn ddydd o ymgyrchu llwyddiannus, a dwi’n edrych ymlaen at barhau i helpu ymgeiswyr lleol sydd yn cynnig syniadau ffres, newydd ar rhan y Blaid.











