Gweithio'n galed ar ran pobl Gorllewin De Cymru / Working hard for the people of South Wales West

Blogio yn y gymraeg….

Wedi i mi ddod yn ol o Lundain, sylweddolais ar y blog bod nifer wedi beirniadu fy ‘niffyg’ blogio drwy’r gymraeg. Rhaid i mi ddweud bod e’n mater o’m dewis i ba iaith rwy’n defnyddio ar y blog. Fel rwyf wedi dweud o’r blaen, dyw blog ddim fel datganiad i’r wasg sydd yn gorfod bod yn ddwyieithog. Blog yw llif y meddwl, a dylsen i gallu blogio drwy’r gymraeg, neu’r saesneg, neu pa bynnag iaith arall o’m dewis i. Dydw i ddim am orfod amddiffyn fy hun ar y mater penodedig yma.

Rwyf yn ymgyrchwr brwd sydd yn rhan o’r frwydr am hawliau cyfartal i’r gymraeg. Fe wnes i ysgrifennu cynnig Plaid ar Ddeddf Iaith Newydd sydd yn rhan o brif Maniffesto’r Blaid yn awr, ac rwy’n ffyddlon i’r achos. Mae’r ddadl am ba iaith rwy’n dewis ysgrifennu blog ddim yn rhan o’r drafodaeth ehangach ar Ddeddf Iaith Newydd yn fy marn i.

Ar ddiwedd y dydd, onid yw’n llesol gweld pobl newydd o’r Blaid yn blogio ac yn ehangu’r drafodaeth gwleidyddol ar y we?

  • Digg
  • del.icio.us
  • Facebook
  • Google Bookmarks
  • TwitThis
  • LinkedIn
  • StumbleUpon
  • Yahoo! Buzz

Sorry, comments are closed on this item.