Gweithio'n galed ar ran pobl Gorllewin De Cymru / Working hard for the people of South Wales West

Ble mae’r Gymraeg?

Rhaid i mi ddweud fy mod i’n ddig iawn bore ma. Dwi’n codi i edrych ar y post, ac mae prif taflennu’r etholiad gan ymgeiswyr y Toriaid a’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghastell Nedd wedi cyrraedd. Does dim gair o gymraeg ar y taflennu. Roedd un paragraff yn unig o gymraeg ar daflen rhanbarthol y Toriaid, a dydw i ddim wedi derbyn un Llafur eto i wneud sylwad teg.

Dwi’n disgwyl gwell gan y pleidiau yma i fod yn onest, yn enwedig gan fod y Toriaid a’r Democratiaid Rhyddfrydol ill dau yn ceisio brandio eu hun fel pleidiau ‘cymreig’, wedi ei gwreiddio yma yng Nghymru. Sut felly os ydynt yn anwybyddu canran mawr o’r boblogaeth trwy diystyrru’r angen i ddefnyddio iaith ein gwlad ar eu taflennu? Byddai hanner tudalen yn well na dim byd, ond mae’r ffaith nad oes hyd yn oed brawddeg yno, yn dangos yn glir nad yw’r pleidiau Prydeining yn deall pa mor bwysig yw’r iaith, yn enwedig mewn ardal fel etholaeth Castell Nedd lle mae nifer fawr o bobl yn medri’r iaith, ac yn defnyddio’r iaith yn eu bywydau pob dydd. Pa esiampl yw hwn i eraill, megis cwmniau ac elusennau, y dylent hwy hefyd cyfieithu eu gwaith neu dogfennau cyhoeddus?

Dwi’n ddig am rheswm arall hefyd, ac hynny am i’r Toriaid a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn nhymor diwethaf y Cynulliad beirniadu’r Llywodraeth am gynnwys y Mesur Iaith a gyflwynwyd. Does dim pwynt iddynt beirniadu’r Llywodraeth os nad ydyn nhw fel pleidiau gwleidyddol yn fodlon ymddwyn mewn modd sydd yn helpu datblygu’r iaith, ac yn ei gefnogi. Siarad gwag yw hybu’r iaith mewn areithiau di-ri ar lawr y Senedd, neu beirniadu Llywodraeth, felly.

Rhaid cofio na fyddai Mesur Iaith wedi dod i fodloaeth heb Blaid Cymru mewn Llywodraeth yn gwthio am ddatblygiad yr Iaith Gymraeg. Wrth gwrs mae angen gwella’r Mesur yn nhymor nesaf y Cynulliad, a gweld sut mae’r pwerau newydd yn gweithio o ran creu Comisiynydd Iaith yn ogystal a statws swyddogol i’r Iaith Gymraeg am y tro cyntaf erioed, ond does dim dwywaith ein bod ni fel Plaid yn frwd o blaid yr Iaith, ac am ei warchod yma yng Nghymru.

Ar nodyn arall, dwi allan eto heddiw yn helpu Alun Llewelyn canfasio yn ardal Castell Nedd. Mae’r haul yn tywynnu, a dwi’n erdych mlan. Ddoe roedd merch ifanc o’r enw Isabella o’r grwp ieuenctid Funky Dragon yn fy nilyn ar lwybr yr ymgyrch i weld beth roeddem yn ei wneud. Dwi’n meddwl iddi fwynhau, ta beth.

  • Digg
  • del.icio.us
  • Facebook
  • Google Bookmarks
  • TwitThis
  • LinkedIn
  • StumbleUpon
  • Yahoo! Buzz

Sorry, comments are closed on this item.