Gweithio'n galed ar ran pobl Gorllewin De Cymru / Working hard for the people of South Wales West

Bangla Cymru

Dyma digwyddiad fach dwi’n trefnu ar yr 2ail o Fehefin yn y Senedd. Croeso i bawb/ Here are details of a small event I’m organising in the Senedd on the 2nd of June. All are welcome.

 

On the 2nd of June, I have arranged for Dr Jishu from Bangladesh, of the charity Bangla Cymru to give a brief power point presentation on his work at 12pm in the Media briefing room. He is visiting Wales and the Senedd for the first time, and your support would therefore be welcomed at the event.

Here is a short explanation of the work of Bangla Cymru-

Bangladesh, according to United Nations statistics is Asia’s poorest country, and more children are born with cleft lip / palate here than in any other part of the world. It’s estimated that five thousand children are born with this condition in Bangladesh annually but only half of them are treated because of lack of funds and medical provision. So many of these are living lives of shame, isolation and scorn mainly due to ignorance and superstition. The operation we offer changes their lives dramatically, not only visually, but also emotionally, socially and economically.

The aim of BanglaCymru is to offer treatment for children, to raise awareness about the condition and what can be done to correct it and to offer help in the form of advice, information and treatment in their own locality, especially for those who cannot afford to travel. Our ultimate hope is to create our own self-sufficient and autonomous medical team and establish ‘cleft’ medical centres in outlying areas of Bangladesh.

For more information go to www.banglacymru.org.uk

…………………………

Ar yr 2il o Fehefin, rwyf wedi trefnu i Dr Jishu, sy’n dod o Bangladesh, o’r elusen Bangla Cymru i rhoi cyflwyniad byr am ei waith yn rhan o’r elusen yn ystafell briffio’r wasg am 12 o’r gloch. Dyma’r tro cyntaf i Dr Jishu ymweld a Chymru a’r Senedd, felly byddai cael eich cefnogaeth yn hwb mawr.

Dyma esboniad byr o waith Dr Jishu yn rhan o Bangla Cymru-

Bangladesh, yn ôl ystadegau’r Cenhedloedd Unedig yw gwlad dlotaf Asia, ac mae mwy o blant yn cael eu geni gyda thaflod a gwefus hollt yma nag unrhyw ran arall o’r byd. Amcangyfrir bod tua pum mil o blant yn cael eu geni gyda’r cyflwr hwn yn flynyddol ym Mangladesh ond dim ond eu hanner sy’n cael eu trin oherwydd diffyg cyllid a darpariaethau meddygol. Mae cymaint o’r rhain yn byw bywyd o gywilydd, gwawd ac unigedd a hynny’n rhannol oherwydd anwybodaeth ac ofergoeliaeth. Mae’r driniaeth yn newid eu bywydau’n ddramatig, nid yn unig o ran pryd a gwedd ond hefyd yn emosiynol, yn gymdeithasol ac yn economaidd.

Nod BanglaCymru yw cynnig llawdriniaeth i’r trueiniaid hyn, i godi ymwybyddiaeth o’r cyflwr a’r hyn y gellid ei wneud i’w gywiro ac i gynnig cymorth, cyngor a thriniaeth iddynt yn eu milltir sgwar, yn enwedig i’r rhai na all fforddio teithio. Ein gobaith hefyd yn y pen draw yw creu tim meddygol hunangynhaliol, ymreolaethol a sefydlu canolfannau ‘hollt’ mewn ardaloedd pellennig ym Mangladesh.

Am fwy o wybodaeth, ewch i’r wefan www.banglacymru.org.uk

  • Digg
  • del.icio.us
  • Facebook
  • Google Bookmarks
  • TwitThis
  • LinkedIn
  • StumbleUpon
  • Yahoo! Buzz

Sorry, comments are closed on this item.