Gweithio'n galed ar ran pobl Gorllewin De Cymru / Working hard for the people of South Wales West

Araith Elfyn Llwyd

Mae Elfyn yn son am y ffaith bod Llafur Newydd mewn cariad gyda’r rheiny sydd yn gweithio yn y ddinas. Dywedwyd bod yna broblem byd eang ymhell cyn nawr, ond fe wnaeth Alistair Darling wneud dim. Mae Elfyn yn gofyn i ni os ydym yn cofio ystyr y gair ‘prudence’. Nid yw Gordon Brown yn gwybod yr ystyr, yn ol Elfyn. Mae Prydain mewn sefyllfa wael iawn i ymdrin a’r creisis. Yn hytrach na gwaredu boom and bust, mae Gordon Broawn wedi ei greu, ac fe fydd ein plant yn dioddef yn sgil hynny. Problem y llywodraeth yw ei bod yn cefnogi buddiannau’r banciau yn fwy na dim arall. Mae’r sector ariannol yn fwy na gwledydd eraill, sydd yn beryglus iawn.  Mae gwahaniaethau rhanbarthol mwya’r economi yn waeth ym Mhrydain nag yn unrhywle arall yn ol ymchwil gan arbennigwyr. Mae hwn eto yn broblem mawr.

Mae Elfyn yn edrych ar beth mae Gordon Brown wedi ‘cyflawni’- parhau a’r broses o gau swyddfeydd budd-daliadau ym Mhrydain. Pam creu mwy o ddiweithdra yn ardaloedd tlota Cymru? Pam adael i’r banciau wneud yr hyn a wnaethant? Y Satan newydd yw Sir Fred Goodwin yn ol Elfyn Llwyd- y prif Weinidog a oedd wedi ei gefnogi o’r cychwyn, ac yn ffrind iddo. Roedd y banc am gael gwared o Sir Fred, ond ni ofynnwyd dim am ei bensiwn. Tasa’r Llywodraeth ddim wedi buddsoddi cymaint ym manc yr RBS, yna fyddai ddim pensiwn ar gael i Sir Fred, yw barn Elfyn.

Mae’r banciau yn ymddwyn fel lladron pen ffordd. Mae’r llywodraeth yn dweud iddynt fenthyg, and mae’r FSA yn dweud iddynt gynilo’r arian hynny. Mae nhw’n cymryd arian cyhoeddus, ac yn eistedd arno, heb wneud dim, yn ol Elfyn. 

Dywedodd Gordon Brown joc dda ar ddechrau’r creisis yma dywed Elfyn. Dywedodd na fyddai Cymru yn gallu ymdopi ar ben ei hun. Ond gad i ni edrych ar beth mae Cymru wedi ei wneud yn ystod y creisis yma. Mae Ieuan Wyn Jones  a Jocelyn Davies wedi cael clod yn ei waith i gynorthwyo’r sector adeiladu, cynnig tir o dan perchnogaeth y llywodraeth i adeiladu tai newydd, sicrhau tai i bobl leol, cynllun achub morgeisio. Mae nhw wedi gwneud popeth o fewn ei gallu o ran pwerau’r Cynulliad i weithredu. Cynullun ReACt a ProAct sydd yn cael clod nawr gan Elfyn Llwyd.

Mae arweinwyr ein gwlad ni wedi ymateb yn briodol. Ond nawr y cynllun yw i dorri £500 miliwn o gyllideb y Cynulliad gan Lywodraeth Prydain. Pa mor hir fedrwn ni beidio sefyll ar ein traed ein hun?

  • Digg
  • del.icio.us
  • Facebook
  • Google Bookmarks
  • TwitThis
  • LinkedIn
  • StumbleUpon
  • Yahoo! Buzz

Sorry, comments are closed on this item.