Gweithio'n galed ar ran pobl Gorllewin De Cymru / Working hard for the people of South Wales West

Annibyniaeth i Gymru


Rwyf newydd ddod ar hyd i flog ar Annibyniaeth i Gymru sydd yn nodi fy mod i’n un o aelodau Plaid sydd yn blogio am annibynniaeth ac yn cefnogi’r cysyniad o annibyniaeth. Fel rwyf wedi dweud o’r blaen, Annibyniaeth yw un o amcanion Plaid a Cymru X- mudiad Ieuenctid y Blaid. Yn fy marn i, dylem gofleidio’r drafodaeth ar annibynniaeth yn yr un modd ag y mai’r SNP yn ei wneud yn yr Alban- h.y mewn modd hyderus, gobeithiol. Mae Cymry fel pobl yn aml iawn yn llawer rhy negyddol am ein gallu fel Cenedl, ac mae e’n orfodol i ni fel Plaid ceisio meithrin hyder y bobl, ac ymarfer ein prif dadleuon o blaid Annibyniaeth yn llawer fwy aml.

Rwyf yn cefnogi annibynniaeth i Gymru oherwydd rwy’n credu dylsem cael yr hawl i lywodraeth ein hun fel gwlad, a’r hawl i ddewis i beidio dilyn penderfyniadau ‘Prydeinig’ tro ar ol tro. Rydym o dan meddiant Lloegr o hyd, a dylsem ni cael yr hawl i ddewis dyfodol o hunan lywodraeth o fewn Ewrop- i sefyll law yn llaw gyda gwledydd eraill.

Ar lefel personol,( a byddai nifer yn anghytuno, mae’n sicr!) rwyf yn cefnogi annibyniaeth oherwydd rwyf am gofleidio’r cyfle o greu Cymru gwell- Cymru sosialaidd, gweriniaethol. Ni fedrwn newid cymdeithas er gwell tra ein bod yn rhan o Undeb sydd yn amharu ar ein gallu i dyfu ac i ddatblygu fel gwlad.

Mae’n rhaid i ni gael trafodaeth sydd yn cyfleu balans o farn am annibyniaeth, ac sydd yn cynnwys dadleuon teg a ffeithiol yn hytrach nag ein bod yn dod yn rhan o ymgais negyddol Llafur Newydd o ofni pleidleiswyr am ddyfodol Cymru annibynnol-o ddiffyg adnoddau, o botensial methiannau, a’n anallu i rheoli ein gwlad ein hun.

Un peth sy’n sicr, byddai Cymru annibynnol yn medru arwain gwlad yn well o lawer na Tony Blair a’i debyg sydd wedi ein arwain mewn i rhyfel anghyfreithlon yn Irac, sydd yn rhan o broblem mawr y ‘cash for peerages’ ar hyn o bryd, ac sydd yn hybu polisiau adain de, Toriaidd.

Oes, mae angen mwy o ymchwil ar sut y byddai Cymru Annibynol yn edrych ac yn cael ei weithredu, ond mae’r posibiliad o ymchwil o’r fath yn gyffroes, a’r ymgyrch dros Gymru Annibynol yn gadarnhaol.

  • Digg
  • del.icio.us
  • Facebook
  • Google Bookmarks
  • TwitThis
  • LinkedIn
  • StumbleUpon
  • Yahoo! Buzz

One Response to “Annibyniaeth i Gymru” [latest first]

  1. Cytuno gyda ti’n llawn yma Bethan. Y cam cyntaf ydy sicrhau annibyniaeth i Gymru, yr ail-gam ydy sicrhau fod y Gymru newydd yn weriniaeth Sosialaidd.