Twitter and why it’s over (for the time being)
Posted on Monday, June 25, 2012 at 5:05pm
no responses
I just wanted to expand briefly on why I am leaving Twitter for now. It’s not directly because of the comments I made on Martin McGuiness and his decision to meet the Queen. It is because Twitter has become a place where, of late, my comments have been taken out of context, and too often my tweets have been referred to the press by opponents.
It’s not somewhere where I feel I can engage in a positive way on policy and ideas at the moment. For the record, I don’t see why having a view on Martin McGuiness meeting the Queen should have been escalated into a full scale row by the Labour party. I fail to see why putting my opinion out there warrants me needing to apologise, as they suggest in a press release.
It is incredible that the Shadow Secretary of State for Northern Ireland would take the step of accusing me of seeking to destabilise the Northern Irish peace process. He clearly does not know me at all, and cannot possibly know me based on a tweet of 140 characters.
Surely scaremongering like this from the Labour party is detracting from the good work that all political parties are doing at a grass roots and political level in the North of Ireland, to work together in making politics work for all?
I also fail to see how I could possibly destabilise such a process as an Assembly Member in Wales – especially given the complex history in the North of Ireland – and given that I have a clear interest in seeing peace work there.
My mother is from Belfast, and I do not have a bone in my body that would wish violence and disorder again on the communities and streets of that city, or others in the North of Ireland. I also wrote my university dissertation on the Northern Irish peace process, and the external influences of the USA (among others) on the success of that process. I have taken the time to learn about my history, and to support the work that is currently being carried out via the process of devolution across these British Isles.
I stand by my view regarding Martin McGuiness. Just because I have a different view does not make it wrong, however. I respect those who believe that he should shake hands with the Queen as part of his role, but it does not mean that I personally have to support this. I am also curious as to why nobody has focused on Peter Hain’s comments suggesting that Martin McGuiness is more of a politician for meeting the Queen than the leader of our party. It seems that it is acceptable for some people to have a view, but not for others.
I may return to Twitter when I have had some time to think about it. I enjoy taking part in Twitter conversations on many levels but have, of late, felt somewhat claustrophobic in that clearly everything I say is being monitored by those who want to stop constructive and open debate, and use Twitter for cynical political point-scoring purposes.
People have told me not to leave, not to let ‘them’ win, but I have work to do as an AM, and I simply want the breathing space at the moment that Twitter simply is not providing. I appreciate that I was one of the first AMs to use this medium, and that it is very effective on many levels - so watch this space!
…………………………………………………………..
Rwyf eisiau ymhelaethu yn fyr ar pam dwi’n gadael Twitter am y tro. Dyw e ddim yn uniongyrchol oherwydd y sylwadau a wnes i ar Martin McGuiness a’i benderfyniad i gwrdd â’r Frenhines. Y rheswm yw bod Twitter wedi dod yn fan, yn ddiweddar, lle mae fy sylwadau wedi eu cymryd allan o’u cyd-destun, ac yn rhy aml mae fy nhrydariadau yn cael eu cyfeirio at y wasg gan wrthwynebwyr.
Dyw hi ddim yn rhywle lle rwy’n teimlo y gallaf gymryd rhan mewn ffordd gadarnhaol ar bolisi a syniadau ar hyn o bryd.. Jyst i glirio pethau, dwi ddim yn gweld pam y dylai mynegi barn ar Martin McGuiness yn cwrdd â’r Frenhines gael ei droi’n ddadlau mawr gan y Blaid Lafur. Rwy’n methu’n deg a gweld pam fod mynegi fy marn yn golygu bod yn rhaid i mi ymddiheuro, fel y maent yn crybwyll mewn datganiad i’r wasg.
Mae’n anhygoel bod Gweinidog yr Wrthblaid dros Gogledd Iwerddon yn ceisio fy nghyhuddo i o geisio ansefydlogi’r broses heddwch yng Ngogledd Iwerddon. Mae’n amlwg nad yw’n fy adnabod i o gwbl, a’i fod yn amhosib iddo selio’i farn ar drydariad sydd ond 140 nod o hyd.
Onid yw codi bwganod fel hyn gan y Blaid Lafur yn dwyn sylw oddi ar y gwaith da y mae pob plaid wleidyddol yn ei wneud ar lawr gwlad ac ym myd gwleidyddiaeth yng Ngogledd Iwerddon, i weithio ynghyd i sicrhau bod gwleidyddiaeth yn gweithio i bawb?
Rwyf hefyd yn ei chael hi’n anodd gweld sut alla i yn bersonol ansefydlogi’r fath broses fel Aelod Cynulliad yma yng Nghymru – yn enwedig wrth ystyried yr hanes cymhleth sydd ynghlwm â Gogledd Iwerddon – a hefyd wrth ystyried bod gen i ddiddordeb sydd gyn loywed â dŵr yn gweld y broses heddwch yn llwyddiant yno.
Mae fy mam yn dod o Belfast, ac nid oes gennyf yr un asgwrn yn fy nghorff y byddai’n dymuno gweld trais ac anhrefn eto ar strydoedd ac yng nghymunedau’r ddinas honno, neu eraill yng Ngogledd Iwerddon. Fe wnes i hefyd ysgrifennu fy nhraethawd estynedig yn y brifysgol ar y broses heddwch yng Ngogledd Iwerddon a’r dylanwadau allanol o’r UDA (ymysg eraill) ar lwyddiant y broses honno. Rwyf wedi cymryd yr amser i ddysgu am fy hanes, i gefnogi’r gwaith sydd yn cael ei wneud ar hyn o bryd gyda dyfodiad datganoli i wledydd Ynysoedd Prydain.
Rwy’n cadw’n driw i fy marn ar ran Martin McGuiness. Nid yw’r ffaith fy mod i’n arddel ar safbwynt gwahanol yn golygu ei fod e’n anghywir. Rwy’n parchu’r sawl sydd o’r farn y dylai ysgwyd llaw gyda’r Frenhines fel rhan o’i rôl, ond nid yw’n golygu fod yn rhai i mi’n bersonol gefnogi hyn. Rwyf hefyd yn rhyfeddu nad oes neb wedi ffocysu ar sylwadau Peter Hain a oedd yn awgrymu bod Martin McGuiness yn fwy o wleidydd am gwrdd â’r Frenhines na’n harweinydd ni yma ym Mhlaid Cymru. Mae’i i weld ei fod yn dderbyniol i rai lleisio’u barn ond nid eraill.
Efallai y byddaf yn dychwelyd i Twitter ar ôl cael amser i feddwl am y peth. Rwy’n mwynhau ymuno mewn trafodaethau ar Twitter ar amryw o lefelau, ond rwyf wedi, yn ddiweddar teimlo’n glawstroffobig gyda’r ffaith bod pob dim yr wyth yn ei ddweud yn cael ei fonitro gan y sawl sydd eisiau rwystro trafodaeth adeiladol agored, a defnyddio Twitter at ddibenion sgorio pwyntiau gwleidyddol sinigaidd.
Mae pobl wedi dweud wrthyf am beidio â gadael ‘iddynt’ ennill, ond mae gen i waith i wneud fel AC, a dwi’n syml angen seibiant ar hyn o bryd, cyfle nad yw Twitter ei hun yn ei gynnig. Rwy’n gwerthfawrogi taw fi oedd un o’r ACau cyntaf i ddefnyddio’r cyfrwng hwn, ac ei fod yn gyfrwng effeithiol lawr ar amryw lefelau – felly cadwch lygaid allan amdanaf yn y dyfodol!











