Pa ddyfodol i BBC Cymru?
Posted on Saturday, May 28, 2011 at 1:09pm
no responses
Yr wythnos hon, gofynnais cwestiwn yn y Senedd yn ystod cwestiynau i’r Prif Weinidog yn dilyn datgeliad yn y Western Mail bod penaethiaid y BBC yn cael y dasg o dorri 20% ar draws y bwrdd yn sgil rhewi’r ffi drwydded a’u cyfrifoldebau mewn perthynas â dyfodol S4C. Rhaglennu fel Week In Week Out, a’r Politics Show Cymru sydd ymysg y rhaglennu maent yn cynnig torri. Dyma beth wnes i ofyn-
“O ystyried y newyddion syfrdanol y bore ma o doriadau o Lundain i gyllideb BBC Cymru ac i rhaglennu BBC Cymru, yn ogystal â’r ansicrwydd sy’n wynebu S4C, byddech yn gofyn i DCMS [yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon] i ddatganoli darlledu i Gymru, fel y gallwn ddiogeli rhaglennu yma yng Nghymru? ‘
Dywedodd y Prif Weinidog Cymru, yn nes ymlaen yn y dydd, ei bod wedi ymrwymo i alw am gyfarfod gyda Jeremy Hunt, y Gweinidog sydd, i ddweud y gwir, yn benderfynol o danseilio Cymru, a darlledu yma yng Nghymru.
Fe wnes i alw ar ddarlledu i gael ei ddatganoli i Gymru, fel y gallwn cael y reolaeth yma yng Nghymru dros ddyfodol ein cyfryngau. Yn ddiweddarach awgrymais y syniad o ffederaleiddio BBC Cymru, BBC Scotland a BBC Gogledd Iwerddon, gan adael penderfyniadau rhwydwaith yn ganolog. Rwy’n bryderus iawn y bydd y toriadau arfaethedig yn cael effaith niweidiol ar ein hunaniaeth yma yng Nghymru, yn effeithio ar y drafodaeth ynghylch gwleidyddiaeth Cymru er i ni gael refferendwm ar bwerau pellach i’r Cynulliad, a beth fydd hyn yn ei olygu ar gyfer S4C.
Daeth y drafodaeth ar ddyfodol darlledu Cymraeg yn fwy pwysig heddiw, wrth i fanylion y toriadau arfaethedig cael ei datgelu yn y Western Mail. Mae dogfennau y BBC yn y papur yn mynd drwy’r holl raglenni yn fanwl, gyda gwybodaeth ar raddfa’r toriadau, a’r effaith bosibl. Dyma rai ohonynt-
Rhaglen: Politics Show
Arbed: £ 173,000
Effaith: Llai o risg i’r enw da na cholli unrhyw raglenni gwleidyddol arall fel y medrir gweld ei fod yn cyfrwng fwy addas ar gyfer rhanbarthau Lloegr.
Rhaglen: Ffeil
Arbed: £ 391,000
Effaith: risg uchel o ystyried y ffocws ar S4C, pe byddai’n dod i ben fyddai’n cael effaith gan ei fod yn y rhaglen i dargedu gynulleidfa ifanc.
Rhaglen: am.pm (torri i un rhaglen yr wythnos gyda chynffon top cyflwynydd a)
Arbed: £ 210,000
Effaith: niwed i enw da gyda’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau, gostyngiad o gynnwys gwleidyddol ar adeg pan mae llywodraeth ddatganoledig yn cyrraedd aeddfedrwydd.
Fel y gwelwch, mae hyn yn peri cryn bryder, ac rwy’n deall bod unrhywbeth yn bosib, gyda phob opsiwn dal ar y bwrdd. Bydd yr adolygiad o wasanaethau yn cael ei wneud gan Ymddiriedolaeth y BBC, ac fe fydd ymgynghoriad yn cael ei lansio yn y Gaeaf yn ol beth dwi’n deall.
Beth sydd o ddiddordeb i mi yn hyn i gyd yw sut mae’r BBC yn ymateb yn swyddogol-maent yn datgan nad oes angen mynd o flaen gofid, a bod ‘dim penderfyniadau wedi eu cymryd’. Serch hynny, rwy’n meddwl bod hawl i ni cwestiynnu yr ymateb swyddogol. A yw’r toriadau yn anochel, ac os felly, pam nad yw hyn yn cael ei adlewyrchu yn gyhoeddus? Pam nad ydyn nhw’n mynd nol at rheolwyr y BBC yn ganolog, ac yn brwydro’r toriadau?
Wrth gwrs, mae’n rhaid i ni edrych yn fanwl ar sut y bydd hyn yn effeithio staff, ac ysbryd y staff , a sut bydd hyn yn effeithio ar Gymru a dyfodol darlledu Cymraeg. Yn anffodus nid oes gennym sesiwn cwestiwn Prif Weinidogol yr wythnos nesaf gan fod yn hanner tymor, ond byddaf yn sicr yn ysgrifennu at y BBC, i Jeremy Hunt, ac yn ceisio cael dadl frys yn y Senedd. Ni allwn eistedd yn ôl ac aros am rhaglennu yng Nghymru i gael ei rwygo i ddarnau. Rydym eisoes wedi gweld gostyngiad gwasanaethau ar ITV Cymru a’r bygythiad i S4C. Mae cyfryngau print hefyd yn dirywio, ac felly mae’n rhaid i’r mater hwn cael ei drin fel mater o frys.
Wrth wneud hynny, dylem edrych ar rhwymedigaethau y BBC o fewn y siarter rhwng y BBC a’r Ysgrifennydd Gwladol. Rwyf wedi rhoi’r rhan yn y siartr sydd yn fwyaf perthnasol i’r mater hwn isod. Beth sy’n digwydd os yw e’n cael ei dorri? A yw’n cael ei ail negodi gyda’r Ysgrifennydd Gwladol? Mae hwn yn faes yr wyf wedi ymrwymo i edrych i mewn i fel llefarydd Plaid Cymru ar hyn yn y Cynulliad.
9. Cynrychioli’r DU, ei gwledydd, ei rhanbarthau a’i chymunedau
(1) Wrth ddatblygu (ac adolygu’r) pwrpas y cylch gorchwyl ar gyfer cynrychioli’r DU, ei gwledydd, ei rhanbarthau a’i chymunedau, mae’n rhaid i’r Ymddiriedolaeth, ymysg pethau eraill, ceisio sicrhau bod y BBC yn-
(a) yn adlewyrchu ac yn cryfhau hunaniaeth ddiwylliannol trwy cynnwys gwreiddiol ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol, ar brydiau, dod â chynulleidfaoedd at ei gilydd i rannu profiadau;
a
(b) yn hyrwyddo ymwybyddiaeth o wahanol ddiwylliannau a safbwyntiau gwahanol, drwy gynnwys sy’n adlewyrchu bywydau gwahanol bobl a chymunedau gwahanol o fewn y DU.
(2) Wrth wneud hynny, mae’n rhaid i’r Ymddiriedolaeth roi sylw ymhlith pethau eraill i-
(a) pa mor bwysig yw adlewyrchu credoau crefyddol; a (b) pa mor bwysig yw darpariaeth briodol mewn iaith leiafrifol.











