Gweithio'n galed ar ran pobl Gorllewin De Cymru / Working hard for the people of South Wales West

Archive for November 3rd, 2009

Refferendwm

Mae’r drafodaeth ar yr LCO  ar yr Iaith Gymraeg wedi bod yn fywiog heddiw, ac eto cadarnhau i nifer fawr ohonom pam bod angen refferendwm ar Senedd i Gymru- fel nad oes rhaid i ni gymryd rhan mewn broses mor gymhleth,  hir wyntog ac anghynaladwy. Wrth gwrs, rwy’n hapus iawn bod yr LCO yn cael ei gymeradwyo, ond ni ddylem orfod ofyn i San Steffan am bwerau dros ein hiaith ein hun.

Dwi’n fawr edrych ymlaen at adroddiad y Confensiwn Cenedlaethol ar fwy o bwerau i Gymru,  ond dwi wedi bod o’r barn ers tro fyd nawr bod angen i wleidyddion o bob Plaid dod at ei gilydd i drafod goblygiadau trefnu ymgyrch Ie dros Senedd i Gymru, a pharatoi am refferendwm fel bod modd ei hennill yn llwyddiannus. 

Heddiw, yn ystod y drafodaeth ar yr LCO dywedodd Alun Davies AC bod e am weld refferedwm yn digwydd ar ol etholiad Cyffredinol. Dwi ddim yn deall pam bod e wedi bod mor hir, ac mor anodd, i meincwyr cefn Llafur ddod allan o blaid gweithredu refferendwm cyn nawr.

 Tasa Aelodau’r Blaid Lafur, a phob Plaid arall wedi ymateb i fy ngalwad y flwyddyn diwethaf am drafodaeth ar y refferendwm, yna byddem wedi datblygu mwy o syniadaeth a chonsensws ar y mater erbyn hyn,  yn fy marn i. 

Yn anffodus, ni ddigwyddodd hynny, ond ni fyddaf yn troi fy nghefn ar ACau sydd am ddatgan cefnogaeth i’r angen am refferendwm, yn enwedig am mai’r rheswm yw anhawster gweithredu’r system LCO presenol. Dwi am weithio gyda unrhyw AC neu grwp neu fudiad sydd o blaid cynnal refferendwm.

 Dwi ond yn gobeithio fod Alun Davies AC yn siarad ar rhan Carwyn Jones AC, y person mae e’n cefnogi i ennill y ras i fod yn Brif Weinidog Cymru pan yn datgan barn am yr angen am refferendwm.

 Mae’n bryd i bob ymgeisydd dweud yn glir eu barn ar y refferendwm, a’r ymdrech fydden nhw’n rhoi mewn i ymgyrchu yn gadarnhaol yn rhan o’r refferendwm hynny.