Gweithio'n galed ar ran pobl Gorllewin De Cymru / Working hard for the people of South Wales West

Archive for October 6th, 2009

LCO Iaith

Mae Alun Ffred Jones wedi gwneud datganiad ar ddatblygiad yr LCO ar yr Iaith Gymraeg heddiw- er i Peter Hain briffio’r wasg cyn pawb arall neithwr, a cheisio fframio’r drafodaeth yng nghyd destun ei agenda ei hun. Un neges i Hain- stopia ymyrryd!

Dwi’n falch bod y broses nawr yn mynd yn ei blaen, ond mae angen i ni gael sicrwydd bod y broses yma o sicrhau’r LCO yn cael ei chwblhau erbyn mis Chwefror fel bod digon o amser i allu cyflwyno mesur ar yr iaith, fydd, am y tro cyntaf, yn rhoi hawliau ieithyddol i’r Cymry Cymraeg.

Dwi’n credu bod Peter Hain yn ceisio arafu’r broses drwy mynnu bod yr Uwch Bwyllgor Gymreig yn cael trafodaeth yn San Steffan ar yr LCO y mis yma. Mae Hywel Francis fel cadeirydd y pwyllgor materion cymreig heddiw mewn datganiad i’r wasg wedi gwrthod dweud ei barn hyd nes bod y drafodaeth hynny yn digwydd.

Ond beth yw’r pwynt o gael y drafodaeth yn yr Uwch bwyllgor mewn gwirionedd? Mae’r Cabinet, yn ol beth dwi’n deall, wedi cytuno i’r LCO gyda’r newidiadau. Pa rol felly sydd gan y pwyllgor ar lefel scriwtini ,o wybod bod Gweinidogion Llafur San Steffan wedi rhoi eu sel bendith iddo?  Dylen ni wthio ymlaen gyda’r LCO, heb cael trafodaeth ar ol trafodaeth ac hynny er mwyn ceisio cymodi ASau Unoliaethol.

Ar y mater o fudiadau a busnesau sydd yn dod i fewn i’r Ddeddf os ydynt yn derbyn cefnogaeth ariannol o £400,000 ,dwi o’r farn na ddylai fod yna unrhyw swm ariannol yn gysylltiedig gyda’r LCO yn y fath modd. Fe fydd rhan fwyaf o fudiadau fel Cadw a’r Gerddi Fotanig yn dod o fewn y swm hynny, ond nid dyna’r pwynt. Mae gwerth arian yn newid yn aml. Pam rhoi ffigwr ar y mudiadau sydd yn derbyn cefnogaeth ariannol gan y Llywodraeth o gwbl? Mater o egwyddor ynw hwn, yn syml, a dwi’n cytuno gyda Cymdeithas yr Iaith yn hynny o beth.

Gorau po gyntaf mae pwerau dros yr iaith yn cael ei drosglwyddo i’r Cynulliad yn fy marn i.