Gweithio'n galed ar ran pobl Gorllewin De Cymru / Working hard for the people of South Wales West

Archive for July 1st, 2009

Dadl Fer- Y Chwyldro Twitter- yr angen am adnewyddiad democrataidd?

Dyma erthygl dwi wedi sgwennu ar gyfer y wefan Metastwnsh ar fy nadl fer fyddaf yn gwneud y prynhawn yma yn y Senedd.

Y Chwyldro Twitter- yr angen am adnewyddiad democrataidd?

Byddaf yn cyflwyno dadl fer yn y Cynulliad i drafod sut mae defnydd o’r we a thechnoleg wedi esblygu, a’u heffaith ar systemau democrataidd. Dwi ddim am ddweud gormod am gynnwys fy araith, ond rwy’n bwriadu dangos clipiau ar ffilm o sut mae pobl yn cyfathrebu gyda gwleidyddion ar y we, pa mor effeithiol ydyw, a sut medrwn datblygu ar hyn. Dwi hefyd yn awyddus i bobl cymryd rhan yn y drafodaeth ar twitter trwy postio sylwadau gyda #senedd, ac hynny yn bennaf er mwyn i’r drafodaeth fod yn fwy eang nag i gynnwys ni fel Aelodau Cynulliad yn y Siambr yn unig.

Mae twf defnydd o dechnoleg wedi bod yn syfrdanol, yn enwedig yn sgil y modd unigryw y cafodd ei ddefnyddio gan Barak Obama pan oedd e’n sefyll fel Llywydd yr UDA. Mae’r effaith ym Mhrydain wedi bod yn llai hyd yn hyn, ond yr un mor pwysig, gyda tua 10% o Aelodau Seneddol nawr yn dewis defnyddio’r safle rhwydweithio Facebook i hysbysebu eu gwaith neu i gyfathrebu gyda etholwyr yn ol y Gymdeithas Hansard, gyda thwf yn yr aelodau etholedig sydd yn blogio, yn ffilmio clipiau byr ar gyfer youtube, neu yn lawlwytho lluniau i raglennu megis Flickr.

Wrth gwrs mae hyn oll yn gadarnhaol, ond rhaid i gyfathrebiaeth ar y we gan wleidyddion bod yn ddidwyll, a rhaid iddynt cynnal yr ymgais hynny i gyfathrebu gyda etholwyr ar y we. Dyna’r hyn y mae ymchwil gan Hansard yn amlygu- mae’n iawn i aelodau etholedig gael tudalen facebook, neu blog snazzy, ond os nad ydynt yn ei ddefnyddio yn aml fel rhan annatod o’u gwaith pob dydd, yna mae eu heffaith yn pylu.

Yn y drafodaeth, dwi hefyd yn awyddus i ofyn os ydy cyfathrebiaeth gan wleidyddion ar y we yn helpu creu system democrataidd mwy agored a thryloyw? Yn ol Andy Williamson o Gymdeithas Hansard, mae’r ffaith bod Senedd yrAlban wedi rhoi lwfansau Aelodau’r Senedd ar y we wedi sicrhau bod y system yn llawer fwy agored i aelodau’r cyhoedd, a bod y sefydliad felly wedi osgoi y creisis ffydd sydd wedi bod mor amlwg yng nghyd destun San Steffan.

Ac wrth gwrs, rwy’n benderfynol o drafod sut mae pobl yn defnyddio twitter, facebook ac ati i ymgyrchu’n effeithiol, ac i ledaenu ei neges. A yw Confensiwn Cymru Gyfan wedi llwyddo yn yr ymgais hyn, tybed? Pa mor effeithiol ydy ymgais Ty’r Arglwyddi wedi bod wrth gyflwyno ymgynghoriadau ar y we? A yw gwledydd fel Moldova ac Iran wedi defnyddio’r technoleg fel modd o rhoi barn sy’n wrthyn i sefydliadau eu gwledydd, ac a yw hwn wedi bod o werth?…..

Mae hwn yn drafodaeth pwysig a chyffroes, a dwi’n awyddus i bobl sy’n darllen y wefan yma i gymryd rhan.